Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2015

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(238)v4

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Dyraniadau Canlyniadol Datganiad yr Hydref (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Addysg Uwch (Cymru) (5 munud)

NDM5659 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Addysg Uwch (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

 

a) adrannau 2 - 59

b) atodlen

c) adran 1

d) teitl hir

</AI4>

<AI5>

5 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – gwelliant i Deddf Landlordiaid Thenant 1954 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 2) (15 munud)

NDM5655 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y gwelliannau i'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud â thenantiaethau busnesau yn y cartref, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

 

Mae copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:

 

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 2)

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

</AI5>

<AI6>

6 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – taliadau ymadael y sector cyhoeddus (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 3) (15 munud)

NDM5656 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud â thaliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

Mae copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3)

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

</AI6>

<AI7>

7 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio - diwygiad mewn perthynas â Deddf Cychod Pysgota Prydeinig 1983 Deddf Pysgodfeydd 1868 a Deddf Pysgodfeydd 1891 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 5) (15 munud)

NDM5657 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, gytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio, sy'n berthnasol i bysgodfeydd a physgota i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 5) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

 

Mae copi o'r Bil Dadreoleiddio ar gael yma:

http://services.parliament.uk/bills/2013-14/deregulation.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 5)

</AI7>

<AI8>

Cynnig i atal dros dro Rheol Sefydlog 11.16 i ganiatáu i'r eitem nesaf o fusnes gael ei thrafod (5 munud)

NNDM5662 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal dros dro y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5661 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 13 Ionawr 2015.

</AI8>

<AI9>

8 Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014 (15 munud)

NNDM5661 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo'r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Rhagfyr 2014.

 

Dogfennau Ategol

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2014
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI9>

<AI10>

9 Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2015-16 (60 munud)

NDM5658 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2015-2018 (Setliad Terfynol – Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2015.

 

Dogfen Ategol

Setliadau Refeniw a Chyfalaf Terfynol Llywodraeth Leol 2015-16

</AI10>

<AI11>

10 Dadl: Adroddiad Blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2013-14 (60 munud)

NDM5660 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Adroddiad Blynyddol (2013-14) Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a anfonwyd at Aelodau'r Cynulliad ar 6 Ionawr 2015.

 

Dogfen Ategol

Adroddiad Blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2013-14

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod ei ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ynghylch y pwysau cynyddol ar y gwasanaeth a'i allu i ateb y galw.

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cymryd camau brys i wella mynediad i wasanaethau CAMHS; a

 

b) cynnal asesiad o gyllid ar gyfer CAMHS yng Nghymru i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael adnoddau digonol i ddiwallu anghenion pobl ifanc ar draws y wlad.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yn cael gwybodaeth drylwyr am y dewis o driniaethau a'u hargaeledd ac i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau mewn modd amserol.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol ac i roi terfyn ar stigma.

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at effaith diwygiadau lles ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

 

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyflogwyr i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i hyrwyddo cyflogaeth.

 

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cefnogi'r ymgyrch 'Amser i newid' i fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

 

</AI11>

<AI12>

11 Cyfnod Pleidleisio 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 14 Ionawr 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>